top of page
​

Amdanom ni

​

Elusen yng Nghaerdydd ydym ni - rydym yn annog ac yn galluogi plant ac oedolion o bob oed a gallu i fwynhau manteision seiclo. Ein nod yw cael gwared ar y rhwystrau i seiclo y mae llawer o bobl yn eu hwynebu. Rydym yn angerddol am annog pobl i fwynhau seiclo - rydym yn mynd â'n beiciau i gymunedau, ysgolion ac ysbytai, ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gyflwyno ein gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

Gall y cyhoedd logi ein beiciau hefyd o'n lleoliadau ym Mhontcanna a Bae Caerdydd a chael y cyfle i fwynhau'r ddinas a'r ardaloedd cyfagos. 

 

Gan mai elusen ydym ni, nid ydym yn cael unrhyw arian craidd, felly rydym yn dibynnu ar incwm yr ydym yn ei gynhyrchu ein hunain, rhoddion preifat, grantiau a chyllid gan gyrff ariannu perthnasol.

 

Pam mae ein gwaith yn bwysig

 

Rydym yn gwybod bod cerdded a seiclo yn dda i’n hiechyd, ond nid yw llawer ohonom yn gwneud yr ymarfer corff a'r gweithgareddau corfforol rheolaidd sydd eu hangen arnom ni. Nawr, ystyriwch faint yn anoddach yw gwneud ymarfer corff os ydych chi'n anabl ac os nad oes offer a chyfleusterau sy’n addas i’ch anghenion. Dychmygwch pa mor unig yw methu â gwneud ymarfer corff gyda theulu a ffrinidiau. Yma yn Pedal Power, mae gennym ni ystod eang o feiciau a threiciau sydd wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer plant ac oedolion ag amhariadau. Mae gennym hefyd feiciau cyffredin y gall ffrindiau, teulu a gweithwyr gofal eu defnyddio, fel bod seiclo yn gallu bod yn weithgaredd cymdeithasol hefyd.

 

​

​

 

Ein Gweledigaeth


Bydd Pedal Power yn cael ei ystyried y lle cyntaf i droi ato yn yr ardal leol pan fydd trigolion, cymunedau, sefydliadau gofal ac ymwelwyr, beth bynnag fo'u hoed, gallu neu gefndir, am gael cyfleoedd i gymdeithasu a gwella eu hiechyd a'u lles drwy seiclo.

​

Ein Cenhadaeth


Rydym yn annog ac yn galluogi pobl o bob oed a gallu i fwynhau manteision seiclo.
 

Ein Gwerthoedd

​

  1. Creu amodau dysgu - lle mae pobl yn cyflawni eu nodau a'u dyheadau

  2. Gwella - bod yn broffesiynol, gwybod sut rydym yn perfformio ac ymdrechu i wella

  3. Gwerthfawrogi pobl - gwasanaeth sy'n rhoi pobl yn gyntaf, cymuned lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn iddi, a lle gwych i weithio a gwirfoddoli

  4. Cydraddoldeb - ymgysylltu ag unigolion a chymunedau o dan anfantais, cael gwybod beth sydd ei eisiau arnyn nhw a chynnig cyfleoedd

  5. Cynaliadwyedd - cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

 

Ein Hanes

​

Ar ôl dechrau fel prosiect bach ar gyfer seiclwyr anabl yn Ysbyty Trelái ym 1996, sefydlwyd elusen Pedal Power yn 2000 ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Gyda chymorth Cyngor Caerdydd a'r Loteri Fawr, daeth Canolfan Seiclo Pedal Power ym Maes Carafannau Pontcanna yn weithredol yn 2007.

​

 
bottom of page