Call us on 02920 390713
Email us at bookings@cardiffpedalpower.org.uk
​
Find us using WHAT3WORDS
Eich Cefnogaeth
Mae angen cefnogaeth gwirfoddolwyr arnon ni bob amser, ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth hon yn fawr! Mae Pedal Power yn gweithio gydag ystod o oedolion a phlant ag anableddau ac mae angen arbenigedd ac offer arbenigol i allu gwneud hyn. Mae angen i ni gynhyrchu dros 90% o'n refeniw, ac rydym yn ceisio gwneud hyn drwy logi beiciau, rhoi hyfforddiant, gwerthu beiciau, atgyweirio, a'n caffi - ond nid yw byth yn ddigon!
​
Felly, mae arnon ni wir angen eich cefnogaeth CHI!
​
Gwirfoddoli gyda ni
​
Mae cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd, cael profiad gwaith a magu hyder, helpu pobl anabl i seiclo a gwybod eich bod yn rhan o sefydliad anhygoel, ymhlith rhai o’r rhesymau pam y dylech ystyried gwirfoddoli gyda ni!
​
Rhagor o wybodaeth a chyflwyno cais
​
Rhoddion
​
Rydym yn dibynnu ar roddion a byddwn yn gwneud defnydd da o'ch arian bob amser. Pwyswch y botwm Rhoi Rhodd Heddiw i gyfrannu unwaith neu drefnu i roi rhodd bob mis. Fel arall, gallwch anfon siec atom neu roi arian parod yn un o'n blychau casglu. I gael rhagor o fanylion neu i drefnu archeb sefydlog cysylltwch â ni.
​
Cymorth Rhodd - os ydych yn gwneud rhodd ac yn drethdalwr yn y DU, ticiwch y botwm Cymorth Rhodd! Mae hyn yn cynyddu eich rhodd i ni 25% heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Diolch!
​
Rydym yn gwarantu y caiff pob ceiniog a roddir i ni ei wario ar alluogi oedolion a phlant o bob oed a gallu i fwynhau’r llu o fanteision sy’n gysylltiedig â seiclo, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill rydym yn eu cynnig.
​
Easy Fundraising
​
Oeddech chi'n gwybod pryd bynnag y byddwch chi'n prynu unrhyw beth ar-lein – o'ch siop wythnosol i'ch gwyliau blynyddol – gallech fod yn codi arian i Pedal Power yn rhad ac am ddim drwy Easy Fundraising?
Pan fyddwch chi'n prynu pethau drwy eich cyfrif Easy Fundraising, mae brandiau'n talu comisiwn iddyn nhw, ac mae canran o’r comisiwn hwn yn cael ei roi i Pedal Power.
​
Codi arian i ni
​​​
Ydych chi’n bwriadu neidio o awyren, rhedeg marathon neu ymgymryd â her seiclo? Os felly, beth am godi arian i ni a galluogi eraill i fwynhau seiclo? Gallwch chi greu tudalen codi arian yn rhwydd ar ein proffil Enthuse. Beth bynnag sydd gennych chi mewn golwg, rhowch wybod i ni fel y gallwn rannu eich stori a diolch i chi am eich ymdrechion!!
Ystyriwch adael rhodd i ni yn eich ewyllys
​
Gallwch chi gael effaith bellgyrhaeddol drwy roi rhodd i Pedal Power Caerdydd yn eich ewyllys a galluogi eraill i fwynhau manteision seiclo. Os ydych chi'n ystyried rhoi rhodd neu eisoes wedi trefnu i roi rhodd i ni, rydym yma i helpu. Ebostiwch bookings@cardiffpedalpower.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
​
Mae unrhyw rodd, beth bynnag ei maint, yn gwneud gwahaniaeth parhaol. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw rodd y byddwch yn ei rhoi yn cael ei defnyddio'n ddoeth ac yn effeithiol.
​
​
​