Call us on 02920 390713
Email us at bookings@cardiffpedalpower.org.uk
​
Find us using WHAT3WORDS
Gwybodaeth i Weithwyr Iechyd a
Gofal Cymdeithasol Proffesiynol
Mae cadw’n heini o fudd i bawb, ac mae seiclo yn weithgaredd gwych sy'n hwyl, yn gymdeithasol ac yn dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae seiclo yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob oed a gallu gadw’n heini a mwynhau mannau awyr agored.
​
Rydym yn gwybod bod seiclo yn ffordd effeithiol o gadw pobl yn iach ac mae’n gallu rhoi hwb i les meddyliol, mae hefyd yn lleihau'r risg/o fudd i bobl sy'n byw gyda chlefyd y galon, gordewdra a diabetes math 2. Ar ben hynny, mae’n helpu i gadw’r system gyhyrol-ysgerbydol yn iach.
​
Sut mae Pedal Power yn ceisio cefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol
​
Hoffem gefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol i wella, trin a gofalu am eu cleientiaid a’u cleifion drwy eu helpu i:
​
-
Wella a chynnal lefelau gweithgareddau trwy nodi cyfle ymarferol i gadw’n heini
-
Cynnig lleoliad cymdeithasol a chyfeillgar
-
Gwella lles meddyliol trwy gadw’n heini a bod mewn mannau gwyrdd a naturiol.
Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod pob ffordd bosibl y gallwn gefnogi eich gwaith ymhellach. Cysylltwch â’n Cyfarwyddwr, Sian drwy ebostio director@cardiffpedalpower.org.uk i drefnu sgwrs, cyfarfod neu gyflwyniad.
​
Sut gall Pedal Power gefnogi cleientiaid a chleifion
​
Mae Pedal Power yn annog ac yn galluogi plant ac oedolion o bob oed a gallu i fwynhau manteision seiclo. Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar unrhyw rwystrau i seiclo y mae llawer o bobl yn eu hwynebu - credwn yn gryf y gall seiclo fod ar gyfer pawb, pob oed a phob gallu.
​
Mae Pedal Power yn cynnig:
​
-
Beiciau 2 olwyn i blant ac oedolion
-
Beiciau 2 olwyn cam isel – perffaith i oedolion hÅ·n neu'r rhai sydd â llai o hyblygrwydd
-
E-feiciau ac e-dreiciau (newydd!)
-
Beiciau 3 olwyn i’r rhai sydd â phroblemau o ran symudedd neu gydbwysedd – e.e. gall y rhain helpu i gryfhau cyhyrau ar ôl cael strôc
-
Beiciau llaw – defnyddiol ar ôl anafiadau i'r coesau neu'r traed
-
Beiciau tandem – delfrydol ar gyfer beicwyr â nam ar eu golwg ac i’r rhai sy’n dechrau arni i seiclo gyda chefnogaeth a hyfforddiant
-
Beiciau arbenigol sy'n caniatáu i gynorthwy-ydd eistedd ochr yn ochr neu y tu ôl i'r beiciwr i helpu’r gwaith seiclo
-
Beiciau sy'n gallu cynnwys cadeiriau olwyn
-
Gwersi seiclo i blant ac oedolion o allu ac anabledd amrywiol
-
Sesiynau a reidiau i fagu hyder mewn seiclo
Teithiau mewn grwpiau a drefnir gan ein gwirfoddolwyr
-
Caffi hygyrch a chroesawgar sydd â thÅ· bach i bobl anabl
-
Gweithdy sy’n gwerthu beiciau arbenigol a gwasanaeth trwsio i gwsmeriaid.
​
Sut i fanteisio ar wasanaethau Pedal Power
​
Nid oes angen i chi gael eich cyfeirio atom ond gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol gysylltu â ni ar ran eu cleientiaid/cleifion neu annog unigolion i gysylltu â ni’n uniongyrchol. Os oes gan unrhyw un anghenion penodol, bydd angen inni gynnal asesiad yn ôl pob tebyg i wneud yn siŵr bod y beic mwyaf priodol yn cael ei ddewis i ddiwallu’r anghenion hyn, a’u bod yn cael profiad seiclo positif a phleserus.
Sut i logi beic neu archebu ein gwasanaethau
​
​
Ffon: 02920 390713
​
Ebost: bookings@cardiffpedalpower.org.uk
Costau
​
Ein nod yw cadw costau mor isel â phosibl ac rydyn yn annog y rhai sy'n mynychu'n rheolaidd i ddod yn aelodau er mwyn elwa ar brisiau is. Ni chodir tâl ar weithwyr cymorth unrhyw aelod.
​
Mae croeso ichi anfon sylwadau, awgrymiadau a diwygiadau mewn cysylltiad â’r wybodaeth hon drwy gysylltu â Sian: director@cardiffpedalpower.org.uk