
Call us on 02920 390713
Email us at bookings@cardiffpedalpower.org.uk
​
Find us using WHAT3WORDS
Gwirfoddoli eich amser a/neu arbenigedd
​
Mae cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd, cael profiad gwaith a magu hyder, helpu pobl anabl i seiclo a gwybod eich bod yn rhan o sefydliad anhygoel, ymhlith rhai o’r rhesymau pam y dylech ystyried gwirfoddoli gyda ni! Os hoffech chi drafod y posibilrwydd o wirfoddoli gyda ni, ebostiwch Anna ar volunteer@cardiffpedalpower.org.uk neu gwnewch gais drwy ddefnyddio'r botwm isod.
​
Sut i wirfoddoli
​
Gwirfoddolwyr Llogi Beiciau
Byddwch yn gwneud yn siŵr bod y beiciau’n ddiogel ac yn barod i'w llogi, ac yn helpu seiclwyr i fynd ar y beiciau. Mae cyfleoedd ar gael ar safleoedd Pontcanna a Bae Caerdydd.
Arweinwyr Teithiau Seiclo
Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n mwynhau helpu pobl i ddod yn seiclwyr hyderus a dangos ein dinas fendigedig iddyn nhw, dewch i gynorthwyo ein teithiau seiclo rheolaidd.
Caffi
Rhowch help llaw yn ein caffi - delio â chwsmeriaid, gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol a bod croeso iddyn nhw, clirio byrddau ac ati.
Safle Bae Caerdydd
Gallwch gynorthwyo yn ein safle prysur ym Mae Caerdydd i helpu i logi beiciau i'r cyhoedd.
Gwirfoddoli a Gefnogir gan Gyflogwyr
I gyflogwyr busnes a'r sector cyhoeddus sydd am wneud gwahaniaeth naill ai fel unigolion neu mewn timau.
​
