
Shan
"Hyd yn oed pan oeddwn i’n gallu beicio ychydig, roeddwn i’n meddwl y byddai’n cymryd amser hir imi fynd ar y ffyrdd. Nawr mae beicio wedi dod yn rhan reolaidd o’m bywyd! "
Beic dwy olwyn safonol
Rwy'n wir, wir yn ddiolchgar am yr holl help a roesoch imi i ddysgu beicio. Yn ystod yr wythnosau hynny pan fu'n rhaid i chi ddal cefn y beic pan na allwn ddechrau, doeddwn i ddim yn credu y byddwn byth yn gallu beicio. Hyd yn oed pan oeddwn i'n gallu beicio ychydig, roeddwn i'n meddwl y byddai'n cymryd amser hir imi ddod allan ar y ffyrdd. Nawr mae beicio wedi dod yn rhan reolaidd o fy mywyd!
Yn fuan ar ôl y daith grŵp, dechreuais feicio'n rheolaidd ar y lonydd beicio ac yna'n raddol ar y ffyrdd, yn gyntaf gyda fy mhartner ac wedyn ar fy mhen fy hun. Rwyf bellach yn beicio i'r rhan fwyaf o leoedd, gan gynnwys i'r orsaf drenau (lle rwy'n mynd i Abertawe i'r gwaith unwaith yr wythnos) ac yna o orsaf Abertawe i fy swyddfa, sydd wedi arbed cymaint o amser imi ar fy nhaith i'r gwaith. Diolch yn fawr iawn am eich amynedd gyda mi!
