
Taith gymdeithasol Grŵp Tandem
"Mae grŵp y Tandem yn fwy o hwyl nag y gallaf ei ddisgrifio. Mae’r bobl yn hyfryd iawn! Rhaid imi reidio tandem neu ochr yn ochr gan fy mod yn ddall ac angen rhywun sy’n gweld i reidio o’m blaen. Rwy’n edrych ymlaen at fy reid feicio am y pythefnos cyfan. Rwyf wedi seiclo i leoedd nad wyf erioed wedi bod iddynt o’r blaen. Doeddwn i erioed wedi seiclo ar ffyrdd o’r blaen ond mae gennyf hyder llwyr yn y peilotiaid Pedal Power." (Cyfranogwr)
Tandemau
Nod ein grŵp yw diwallu anghenion ein haelodau, a all fod yn amrywiol ac yn unigryw yn dibynnu ar yr unigolyn. Mae rhai yn ymuno am yr ymarfer corff, roedd rhai yn feicwyr brwd o'r blaen ond bellach yn ei chael hi'n anodd beicio'n annibynnol, ac mae llawer yn dod am yr elfen gymdeithasol o feicio gyda'i gilydd fel grŵp. Mae'r tandemau wedi bod yn ffordd wych i bob un ohonom ddod i adnabod ein gilydd a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned.
Wrth i'r grŵp ddatblygu, daeth yn amlwg bod y cyfranogwyr a'r gwirfoddolwyr yn awyddus i feithrin hyder wrth reidio gyda'i gilydd mewn gwahanol amgylcheddau. Er mwyn cefnogi hyn, rydym wedi darparu hyfforddiant ar y ffordd i'n gwirfoddolwyr fel y gallwn symud yn ddiogel fel grŵp o dandemau a mwynhau reidiau ysgafn o amgylch Caerdydd ar gyflymder hamddenol, cymdeithasol.
