
Louise a'r teulu
“Heb ddefnyddio’r e-velo, fyddwn i ddim yn gallu mynd â Louise allan; mae wedi ein galluogi ni ill dau i barhau i fwynhau beicio ac mae’n fy nghadw’n heini. Mae Pedal Power yn ysbrydoliaeth i bawb sydd ag anabledd a’u gofalwyr. Mae’r awyrgylch yn wych ac mae’n uchafbwynt ein wythnos.” (Richard)"Rydym ni’n dwlu ar y staff, ar y gymuned, ac mae’r llawenydd a gawn o ddod yma wedi ein helpu’n aruthrol.” (Elizabeth)
E-Velo a Raleigh Cargo
Mae Louise mewn cartref gofal ac fe’i daethpwyd gyntaf i Pedal Power gan ei gofalwr i’w chadw’n actif wrth i’w hiechyd a’i gallu corfforol ddechrau dirywio. Bellach mae Louise yn ddefnyddiwr cadair olwyn, felly mae ei gŵr Richard yn parhau â’r sesiynau wythnosol gan ddefnyddio’r e-velo, ein beic cargo tair olwyn hygyrch i gadeiriau olwyn - dywedodd wrthym eu bod wedi mwynhau beicio ar feiciau safonol, ac erbyn hyn mae’r e-velo yn eu galluogi i barhau i fwynhau beicio, cadw’n heini a mwynhau’r rhyddid, yr awyr iach, a’r golygfeydd o’r afon.
Ac mae wedi troi’n antur deuluol! Ar ôl cael rhywfaint o hyfforddiant gan ein staff profiadol, mae eu merch, Elizabeth, bellach yn gallu ymuno â’i rhieni ar y teithiau beicio wythnosol gyda’i theulu ifanc, gan ddefnyddio ein beic e-gargo Raleigh, gan alluogi tri chenhedlaeth i feicio gyda’i gilydd (glaw neu hindda)!
“Roeddwn i ychydig yn nerfus i ddefnyddio’r beic cargo i ddechrau, ond gyda chyfarwyddyd gan staff gwych Pedal Power roeddwn yn gallu dechrau’n araf a dysgu reidio’r beic yn rhwydd ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl. Mae gen i ddau o blant bach, pump oed a dwy oed, a chi, ynghyd â’m tad 68 oed a’m mam mewn cadair olwyn, ac rydym yn gallu beicio gyda’n gilydd fel teulu, sy’n anhygoel. Rydym wrth ein bodd â’r staff, y gymuned, ac mae’r llawenydd a gawn o ddod yma wedi ein helpu’n aruthrol.”
