Gweithdai Celf Balchder Anabledd
Rhowch lais i Fis Balchder Anabledd trwy gelf a cherddoriaeth
Caffi
Ymunwch ag un neu bob un o'n gweithdai celf Balchder Anabledd sy'n rhedeg drwy gydol mis Mehefin - maent yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob oedran a gallu.
Bydd cyfle i gyfranogwyr fynegi eu barn am anabledd drwy gelf a chyfryngau creadigol eraill. Darperir yr holl ddeunyddiau a bydd yr hwyluswyr yn annog sgyrsiau ac yn cefnogi cyfranogwyr i fynegi eu syniadau.
Bydd y sesiynau'n cael eu rhedeg gan Sian a Natasha, ac yna bydd yr holl waith celf a grëir gan y grŵp yn cael ei arddangos yng nghaffi Pedal Power drwy gydol mis Gorffennaf i nodi Mis Balchder Anabledd.
3 gweithdy ar yr 11eg, 18fed a'r 25ain o Fehefin o 12 tan 3pm. 2il o Orffennaf - gosod yr arddangosfa ac yna taith feic yn y parc.

