Sesiynau Symud Ymwybodol ar Gadair

Ymunwch ag un (neu bob un) o 4 sesiwn hanner awr drwy fis Mehefin

Pedal Power Caffi

Mae’r dyddiadau a’r amser rhwng 10-10.30yb ar ddydd Iau 4ydd, 11eg, 18fed & 25ain Mehefin.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cyllid i gynnal pedair sesiwn symud ymwybodol gyda’r hyfforddwraig yoga leol, Natasha.

Mae’r sesiynau hanner awr hyn yn seiliedig ar gadeiriau (cadair safonol a chadair olwyn) ac ar agor i bob oedran a gallu. Mae’r sesiynau am ddim ac maent yn cynnwys diod o’n caffi.

Mae’r sesiynau hyn yn rhai galw heibio a gallwch benderfynu faint o sesiynau rydych yn eu mynychu. Bydd angen i bob cyfranogwr gwblhau holiadur meddygol byr cyn eu sesiwn gyntaf fel bod Natasha yn deall anghenion unigol.